Logo
Homec Button
Committeec Button

Cyngerdd y Pasg 2010

Ar y Sadwrn cyn y Pasg, yn Eglwys y Santes Fair, Y Trallwng, cafwyd perfformiad gwefreiddiol o’r  ‘Caneuon Cysegredig’ gan Karl Jenkins.  Casgliad o saith cytgan o’i weithiau corawl yw hwn, gan gynnwys ‘In Paradisum’ a ‘ Wylodd y Fam’.

Yna cafwyd detholiad o oratorio Haydn, ‘Y Greadigaeth’, gyda gwaith unawdol ardderchog gan Kate Griffith (soprano) a Christopher Barnes (tenor) a’r cwbl yn cyrraedd uchafbwynt gwych gyda’r cytgan ‘Y Nefoedd sy’n Datgan’.

Dechreuwyd yr ail hanner gyda motet Mendelssohn ‘Clyw fy ngweddi’, gyda Kate Griffith yn ein cyfareddu gyda’r unawd ‘Adenydd colomen pe cawn’. Dilynnodd Kate hyn gyda perfformiad disglair o ‘Can y gemau’ (Faust) gan Gounod. Dewisodd Christopher Barnes hen ffefryn arall, sef ‘Lle cerddi di’ (Handel) a gwnaeth gyfiawnder llawn a’r aria adnabyddus hon.

Y cyfeilydd ar yr organ a’r piano oedd  Tim Stuart, ac yr oedd ei gyfraniad i’r noson yn amhrisiadwy.

Cynhaliwyd y cyngerdd i godi arian i gangen Sir Drefaldwyn o Parkinson’s UK, yr elusen sy’n cynnal aelodau lleol, ac yn hybu ymchwil i’r clefyd. Yn yr egwyl, cafwyd sgwrs fer gan Glyn Davies, cadeirydd y gangen, am waith y gymdeithas. 

Cantorion Cegidfa yn creu ysbryd y Nadolig

Ymunodd plant Ysgol Cegidfa a’r Cantorion ar nos Fercher Rhagfyr 16eg i ddod ag ysbryd y Nadolig i’r gynulleidfa yn eglwys St. Aelhaiarn gyda rhaglen o garolau a chaneuon tymhorol eraill. Canodd y plant Have yourself a merry Xmas, a thair carol gyda’r cor gan gynwys gosodiad newydd o I saw three ships.  Ar gais y Parch Roger Bird, cafwyd encore o’i hoff gan, Run, Rudolf run, gyda symuniadau cymwys!

Cafwyd gwin twym a minspeis ar ol y cyngerdd trwy garedigrwydd chwiorydd yr eglwys. Hwn oedd cyngerdd Nadolig olaf y Cantorion yn 2009, yn dilyn Selattyn ar Rhagfyr 5ed a Llanfechain ar y 12fed, lle helpwyd y gymuned leol i ddathlu agoriad eu Neuadd Goffa newydd. Profodd y neuadd yn lleoliad ardderchog i’r cor, a mawr oedd gwerthfawrogiad y gynulleidfa. Cyfeilwyd I’r cor ar y piano a’r organ gan Joan Upton-Holder a’u cyfeilydd arferol, Pam Yapp. Yr arweinydd oedd Gerry Howe. Ail-gychwynir ymarfer dydd Mercher Ion. 6ed, i baratoi ar gyfer Cyngerdd y Pasg yn Eglwys y Santes Fair, Y Trallwng ar Mawrth 27ain, a fydd yn cynnwys cerddoriaeth gan y cyfansoddwr Cymreig, Karl Jenkins.

 


Contactc Button
Recentc Button
Reviewsc Button
Futurec Button
Picturesc Button
Listenc Button
Linksc Button