| |
|
|
Cantorion Cegidfa
Llywydd: Christopher Booth-Jones
Cyfarwyddwr Cerdd: Gerry Howe
Cyfeilydd Ymarfer: Pam Yapp
Cor cymysg o
ryw ddeugain o leisiau yw’r Cantorion, yn tynnu eu heulodau
o’r canolbarth o amgylch Y Trallwm, Y Drenewydd, a Chroesoswallt.
Fe gynnwys eu rhaglenni gerddoriaeth yn tarddu o’r unfed ganrif
ar bymtheg hyd yr unfed ganrif ar hugain, gan gyfansoddwyr mor amrywiol
a Bach a Bernstein i Mozart a Mathias, yn ogystal a thoreth o
gerddoriaeth ysgafn. Dros y blynyddoedd, codwyd miloedd o bunoedd
i elusenau lleol a chenedlaethol, a chafwyd cryn dipyn o lwyddiant mewn
cystadleuthau corawl.
Ffurfiwyd y cor dros ddeng mlynedd ar hugain yn ol, pan holltodd y
Guilsfield Amateur Dramatic Society yn ddau grwp. Dyma darddiad y
Guilsfield Concert Party dan arweiniad Bethan Scotford, a ddaeth yn
boblogaidd iawn gyda’u rhaglenni ysgafn.
Wedyn, penodwyd Audrey Beeston yn Gyfarwyddwr Cerdd a newidiwyd
enw’r grwp i Cantorion Cegidfa. Dan arweiniad Audrey, buan y
daethy cor yn adnabyddus am eu safonau cyson a’u rhaglenni
diddorol. Ar ymddeoliad Audrey yn 1996, penodwyd Susanne Edwards fel ei
olynnydd, ac yn ystod ei deng mlynedd wrth y llyw, cafwyd llawer
o berfformiadau diddorol a graenus.
Cychwynnodd Gerry Home fel cyfarwyddwr yn 2006. Hyfforddwyd Gerry yng
Ngholeg Cerdd Llundain, ac yng Ngholeg y Drindod, Llundain. Mae’n
gweithio ar ei liwt ei hun fel athro cerdd, arweinydd a threfnydd.
Mae’n Organydd a Chorfeistr yn Eglwys Sant Pedr yn Prestbury ac
mae’n arwain Cor Siambr Cantiones yn Croesoswallt.
Dan ei gyfarwyddyd, mae’r cor wedi datblygu’n sylweddol gan
ehangu eu rhaglenni i gynwys cyfanweithiau fel Requiem Faure a
Crucifixion Stainer.
Mae’r Cantorion yn perfformio cyfres o gyngherddau bob blwyddyn
– cyngherddau at y Pasg a’r Nadolig, a
Chyngerdd-swper o gerddoriaeth ysgafn ddechrau’r haf.
Maent hefyd yn barod, pan mae’n bosibl, i berfformio am bris
rhesymol i godi arian at elusenau, neu i ganu mewn priodasau, etc.
Cynhelir ymarferion ar nosau Mercher am 7.30 pm yn yr Hen Ysgol
yn Cegidfa. Croesewir aelodau newydd: dim prawf llais yn angenrheidiol !
|